Mark Williams

Aelod Seneddol dros
Geredigion




Mark Williams AS

Dyddiad y
Gymhorthfa
nesaf yw -

I wneud
apwyntiad
cliciwch yma


Canlyniadau
Etholiad
Ceredigion 2005

Canlyniadau Etholiad Ceredigion 2005
I gael mwy o wybodaeth
cliciwch yma

Ynglŷn â Mark Williams

 
 

Mae Mark Williams AS wedi bod yn amlwg mewn gwleidyddiaeth Ceredigion ers mwy na dau
ddegawd.

Wedi ei eni ym 1966, daeth i Aberystwyth fel myfyriwr ym 1984. Wedi iddo raddio mewn
gwleidyddiaeth ym 1987, gweithiodd fel Cynorthwyydd Etholaethol i’r AS Democratiaid
Rhyddfrydol dros Geredigion, Geraint Howells, am bum mlynedd. Wedi hyn bu’n gweithio
fel Cynorthwyydd Ymchwil ar gyfer ei gydweithwyr Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r
Arglwyddi. Caniataodd yr addysg wleidyddol hon i Mark weld sut oedd y senedd yn
gweithio ac i weld blaenoriaethau pobl Ceredigion, a pharhaodd y diweddar Arglwydd
Geraint i’w fentora a’i gefnogi’n frwd tan ei farwolaeth.

Wedi iddo gwblhau’r hyfforddiant athrawon, gweithiodd Mark mewn ysgolion yng Nghernyw
a Dyfnaint, cyn cael swydd fel Dirprwy Brifathro Ysgol Gynradd Llan-gors ger Aberhonddu
yn 2000.Fodd bynnag, fel nifer o bobl leol sydd wedi gorfod symud i ffwrdd o gael gwaith,
parhaodd Ceredigion a’i thraddodiadau yn agos iawn at galon Mark. Mae’n ddysgwr
Cymraeg ac roedd yn dysgu Cymraeg i’w ddosbarth yn yr ysgol gynradd.

Ar ei drydydd ymgais i gael sedd yn y senedd dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Ceredigion,
llwyddodd yn etholiad 2005. Cafodd ganlyniad bendigedig yn isetholiad 2000 gan roi’r
Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl mewn ail safle, ac yn Etholiad Cyffredinol 2001, cynyddodd
bleidleisiau’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhellach gan leihau mwyafrif Plaid i 3,944. Ar
5 Mai, enillodd Ceredigion gyda 6% mwy o bleidleisiau, gan wrthdroi’r mwyafrif a’i
ddisodli gyda mwyafrif ei hunan o 219.

Mae Mark a’i wraig, Helen, yn byw yn y Borth gyda’u tair merch ifanc, Eleanor,
Anna ac Eliza a’u mab Oliver.

Rhai ffeithiau am Mark:

Addysg: Ysgol Richard Hale, Hertford; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth;
Prifysgol Plymouth.

Profiad Seneddol: 2006- Siaradwr Materion Cymreig y Wrthblaid, 2005-6
Gweinidog Addysg y Gwrthblaid, 2005- Pwyllgor Dethol Cymru, Ymgeisydd yma yn
isetholiad 2000 ac yn etholiad cyffredinol 2001, Ymgeisydd dros Drefynwy ym 1997

Aelodaeth: NASUWT, Y Gynghrair Cefn Gwlad, Cynorthwyydd Ymchwil, Cydweithwyr
Rhyddfrydwyr/Democratiaid Rhyddfrydol 1987-92; Aelod, Gweithrediaeth Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru 1991-92; Cynorthwyydd Etholaethol, Geraint Howells AS 1987-92;
Llywydd, Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion 1998-2000; Pwyllgor Ymgyrchu
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2000

Statws priodasol/plant: Priod, 3 merch ac 1 mab

Diddordebau: Cerdded, gwersylla, darllen bywgraffiadau. Diddordebau gwleidyddol:
addysg, materion gwledig

  Mark Williams AS      
           
    Mark Williams AS    
           
    Mark Williams AS    
   
©2007 Eiddo Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion a Vertellech.com yw cynnwys yr holl wefan hon. Telir am y safle gan arian a roddir i bob AS i’w helpu i roi gwybodaeth
i’w hetholwyr ac i’w cynrychioli. Datblygwyd y safle gan Vertellech.com