Mark Williams

Aelod Seneddol dros
Geredigion




Mark Williams AS

Archif Adroddiadau Misol

Hydref-08

Awst / Medi-08

Gorffennaf-08

Mai / Mehefin-08

March / Ebrill-08

Chwefror-08

Ionawr-08

Rhagfyr - 07

Tachwedd - 07

Hydref - 07



Canlyniadau
Etholiad
Ceredigion 2005

Canlyniadau Etholiad Ceredigion 2005
I gael mwy o wybodaeth
cliciwch yma

Adroddiadau Misol

Hydref 2008

Rydym wedi cael wythnosau reit brysur ers i’r Senedd ddychwelyd dechrau mis Hydref, ac fel meinciwr cefn rwyf wedi sicrhau bod yna gyfleoedd pwysig ar gael i drafod materion a godwyd gan drigolion ledled Ceredigion yn y Senedd.

Mewn trafodaeth a ddechreuais ac a arweiniais, cefais gyfle i godi’r mater o dagio defaid yn electronig. Fel rheol, dim ond yr Aelod a’r Gweinidog sy’n cymryd rhan mewn trafodaethau hanner awr fel hon, ond yn y drafodaeth hon defnyddiais ymyriadau yn fy araith gan fy nghyd-aelodau Llafur, Ceidwadwyr a Chenedlaetholwyr a gwelwyd bod nifer ledled y sbectrwm gwleidyddol yn anghytuno â’r cynllun. Pam ddylen ni fynd ymlaen â chynllun adnabod biwrocrataidd sydd â thechnoleg amheus, a fydd yn rhoi dyfodol nifer o ffermydd teulu a martau yn y fantol, am ei fod mor ddrud? Mae’r Llywodraeth wedi gweld yr anawsterau ond nid yw wedi llwyddo i berswadio’r Comisiwn Ewropeaidd i gael gwared â’r cynllun. Oherwydd hyn, rwyf wedi cysylltu â holl Aelodau Senedd Ewrop y DU yn erfyn arnynt i arwyddo Datganiad Senedd sy’n dangos eu gwrthwynebiad tuag at gynigion anetholedig y Comisiwn.

Yn ystod ein Hawl i Holi Cymru gyntaf ers y gwyliau, cefais gyfle i holi Gweinidog newydd Cymru, Wayne David AS, am y rheilffordd rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, ac yn benodol y gwasanaeth bob awr. Mae’n ymddangos nad yw’r fargen hon wedi’i selio. Dywedodd Passenger Focus wrthyf fod y gwaith ar y lein wedi cael ei ohirio, ac maent yn parhau i aros am ateb gan y Cynulliad ynglŷn â chael mwy o arian. Felly croeswch eich bysedd! Fodd bynnag, rwy’n croesawu’r newyddion y bydd nifer o’n gwasanaethau yn terfynu ym Mirmingham International yn hytrach na’r Birmingham New Street erchyll neu Wolverhampton.

Mewn trafodaeth a gafwyd yn y Senedd wythnos diwethaf ynglŷn â’r anawsterau ariannol y mae pensiynwyr yn eu hwynebu, cefais gyfle i godi’r ffaith fod chwyddiant pensiynwyr yn uwch na’r cynnydd mewn prisiau adwerthu - amcangyfrifir ei fod cymaint â 9% yn uwch. Y rheswm dros hyn yw bod pensiynwyr yn gwario mwy o’u hincymau sefydlog ar fwyd a thanwydd. Erfyniais ar y Gweinidog i lobïo ei chydweithwyr yn y Drysorlys i gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth fel bod y cyfraddau’n debycach, er byddai’n well gennyf ei weld yn cael ei gysylltu ag incwm.

Yn dilyn gosodiadau a wnaed i mi gan y Lleng Prydeinig, cefais gyfle i drafod eu ‘Hymgyrch Dychwelyd i Ddogni’. Mae’n amlygu’r ffaith fod dros hanner ein pensiynwyr wedi gwneud gwasanaeth cenedlaethol neu yn gyn-filwyr ac mae gan 38% o’r rhain incymau sy’n is na’r lleiafswm sydd angen i fyw’n iach - £136 yr wythnos i bob pensiynwr. Yr hyn a oedd yn frawychus yn ei harolwg oedd nad oedd tua 71% o’r rhai a atebodd yn hawlio budd-dal Treth Cyngor, er bod bron hanner ohonynt yn cael anhawster i dalu’r Treth Cyngor.

Yn ogystal â hyn, rwyf wedi gofyn mewn trafodaethau yn Neuadd San Steffan i ddifa’r gofyniad sydd ar fusnesau bach i dalu trethi busnes ar adeiladau busnes sy’n wag am fwy na’r cyfnod gwyliau o dri mis, ac mewn trafodaeth ynglŷn â throsglwyddo i ddigidol, erfyniais arnynt i helpu’r cartrefi hynny a fydd heb lun teledu o gwbl pan fydd analog yn cael ei ddiffodd. Dylai trosglwyddo i ddigidol alluogi mwy ac nid llai o bobl i wylio’r teledu.

Un o’r digwyddiadau lleol ardderchog rwyf am dynnu sylw ato’r mis hwn yw lansiad Iechyd a Lles MIND yn Dan Dre, Aberystwyth. Mae’n cynnig pecyn cyfannol o help a chyngor i’r rheiny sydd angen cefnogaeth - yn arbennig yn y cyfnod anodd hwn. Cefais hefyd y fraint o gymryd rhan mewn digwyddiad dydd Sadwrn diwethaf a oedd yn dathlu Gwaith Ieuenctid y sectorau gwirfoddol ledled Ceredigion, gan gwrdd â gweithwyr ieuenctid ymroddedig a’u grwpiau. Dylai eu brwdfrydedd fod yn gysur i ni i gyd - yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned mewn ffyrdd a fydd yn elwa’r gymuned gyfan.

 
©2007 Eiddo Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion a Vertellech.com yw cynnwys yr holl wefan hon. Telir am y safle gan arian a roddir i bob AS i’w helpu i roi gwybodaeth
i’w hetholwyr ac i’w cynrychioli. Datblygwyd y safle gan Vertellech.com